please load a web browser to log in.
Notice: Undefined variable: amac in /var/www/vpn/index_cy.php on line 52

Swansea University

Student and Staff VPN


Croeso i wasanaeth Rhwydwaith Preifat Rhithwir Prifysgol Abertawe (VPN)


I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn COFRESTRWCH GAN DDILYN Y CYFARWYDDIADAU ISOD OS GWELWCH YN DDA. Mae'r gwasanaeth VPN yn cynnwys diogelwch uwch yn ogystal â mwy o hyblygrwydd ar draws systemau gweithredu

Gwybodaeth Bwysig

Mae dilysu ar gyfer y VPN yn gofyn am gadarnhad eilaidd trwy ddilysu aml-ffactor Microsoft (MFA), fel yn achos gwasanaethau eraill y Brifysgol.

Os nad ydych, am unrhyw reswm, wedi gosod Microsoft MFA yn ei le ar gyfer eich cyfrif Prifysgol, dilynwch y ddolen berthnasol isod.

I gofrestru eich cyfrif ar gyfer Microsoft MFA, dilynwch y cyfarwyddiadau i Staff os ydych yn aelod o staff, neu ar gyfer Myfyrwyr os ydych yn fyfyriwr y Brifysgol


Dewiswch eich Platfform ar gyfer y VPN


VPN on a PC VPN on Android VPN on iOS VPN on an AppleMac





Mynediad o Bell Diogel ar gyfer Cyfrifiaduron (VPN)

Mae'r gwasanaeth Mynediad o Bell Diogel yn galluogi myfyrwyr a staff i gysylltu ag adnoddau cyfyngedig y Brifysgol tra eu bod oddi ar y campws neu'n defnyddio eduroam. Mae'r gwasanaeth yn amgryptio traffig rhwng cyfrifiadur defnyddiwr a rhwydwaith y Brifysgol. Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn esbonio sut i ddefnyddio Pulse Secure Client gyda'r gwasanaeth Mynediad o Bell Diogel. Pan fyddwch oddi ar y campws argymhellir eich bod yn defnyddio'r Porth Mynediad Diogel/VPN er mwyn cael mynediad i gronfeydd data adrannau, gweinyddion ac adnoddau TG eraill y Brifysgol sydd wedi'u diogelu gan wal dân.

Gofynion

Gall Windows 7 neu ddiweddarach gysylltu trwy borwr gwe cydweddol. Y porwyr gwe sydd wedi'u cefnogi gan Brifysgol Abertawe yw Google Chrome, Safari neu Firefox.

Defnyddio'r Gwasanaeth o Bell

Mae'r cyfarwyddiadau hyn wedi'u creu gan ddefnyddio porwr y we Google Chrome.

I ddefnyddio Gwasanaeth Mynediad o Bell Prifysgol Abertawe:

  1. Mewn porwr gwe, ewch i https://connect.swan.ac.uk

  2. Bydd neges cyn mewngofnodi yn ymddangos, cliciwch ar Proceed

  3. Mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Prifysgol Abertawe

  4. Derbyniwch y cais dilysu MFA trwy'r ap Microsoft Authenticator, neu drwy neges destun neu alwad ffôn, fel byddech yn gwneud wrth fewngofnodi i'ch cyfrif e-bost

  5. Ar y sgrin nesaf bydd yr Host Checker yn dechrau llwytho. Bydd angen lansiwr gosodiadau ar gyfer hyn


  6. Ar ôl cyfnod byr bydd y sgrin yn gofyn i'r lansiwr gosodiadau gael ei osod, cliciwch ar Download pan fydd yn ymddangos


  7. Yn y gornel dde ar waelod Chrome gofynnir i chi gadw neu waredu'r ffeil PulseSecureApplicationLauncher.msi, cliciwch ar 'Keep'


  8. Pan fydd y ffeil wedi lawrlwytho yna dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin


  9. Pan fydd y gosodiad wedi'i gwblhau cliciwch ar 'OK'

  10. Yna cliciwch ar 'HERE' i barhau


  11. Pan fydd neges yn ymddangos gan Chrome cliciwch yn y blwch i gofio'r dewis yna cliciwch ar Open Pulse Secure Application Launcher


  12. Os bydd gwall dystysgrif ganlynol yn ymddangos atebwch "Yes" i "Do you want to proceed?"


  13. Ar ôl i'r lansiwr gosodiadau gael ei osod bydd yr Host Checker yn gosod ei hun a gofynnir i chi roi caniatâd i'r gweinyddwr gael mynediad i osod yr elfen

  14. O dan Client Application Sessions cliciwch ar y botwm 'Start' a phan fydd neges yn ymddangos teipiwch fanylion dilysu'r gweinyddwr neu rhowch ganiatâd i'r gosodwr gael mynediad i osod Pulse Secure


  15. Pan fyddwch wedi mewngofnodi i'r adran 'Web Bookmarks' byddwch hefyd yn sylwi ar le y gallwch gael mynediad i adnoddau'r we yn ddiogel heb orfod defnyddio Pulse Secure Client VPN neu gallwch ddefnyddio'r VPN a 'Web Bookmarks' ar yr un pryd










Mynediad o Bell Diogel ar gyfer Android (VPN)

Mae'r gwasanaeth Mynediad o Bell Diogel yn galluogi myfyrwyr a staff i gysylltu ag adnoddau cyfyngedig y Brifysgol tra eu bod oddi ar y campws neu'n defnyddio eduroam. Mae'r gwasanaeth yn amgryptio traffig rhwng cyfrifiadur defnyddiwr a rhwydwaith y Brifysgol. Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn esbonio sut i ddefnyddio Pulse Secure Client gyda'r gwasanaeth Mynediad o Bell Diogel. Pan fyddwch oddi ar y campws argymhellir eich bod yn defnyddio'r Porth Mynediad Diogel/VPN er mwyn cael mynediad i gronfeydd data adrannau, gweinyddion ac adnoddau TG eraill y Brifysgol sydd wedi'u diogelu gan wal dân.

Gofynion

Gall dyfeisiau Android sy'n rhedeg fersiwn 4.0 (Ice Cream Sandwich) neu ddiweddarach gysylltu â SSL VPN Prifysgol Abertawe trwy'r ap Pulse Secure. I wirio pa fersiwn Android sy'n rhedeg ar eich dyfais ewch i Settings yna dewiswch About Phone neu About Tablet. Bydd fersiwn y system weithredu wedi'i chynnwys o dan "Android Version". (Anwybyddwch "Kernel version"; er bydd y rhif yn edrych yn debyg nid yw fersiwn y system weithredu yn union yr un peth â'r fersiwn kernal).

Gosod yr ap


Google Play Store

  1. Agorwch Google Play Store.
  2. Yn y bar chwilio, teipiwch Pulse Secure. Chwiliwch am logo gwyrdd, gwyn a du Pulse Secure.
  3. Dewiswch Pulse Secure.
  4. Dechreuwch y gosodiad a derbyniwch End User License Agreement.
  5. Tapiwch ar Add Connection yna:
    1. Ar gyfer "Connection name" rhowch IU SSL VPN.
    2. Ar gyfer "Username" rhowch https://connect.swan.ac.uk.
    3. Ar gyfer "Username" rhowch eich enw defnyddiwr h.y. a.test.
    4. Sicrhewch fod "Authentication Type" wedi'i osod ar Password.
    5. Gadewch y meysydd "Realm" a "Role" yn wag.
  6. Tapiwch ar Create Connection.
  7. Gadewch yr ap yn gyfan gwbl.

Cysylltu a Datgysylltu

Pwysig:
I gysylltu â SSL VPN Prifysgol Abertawe:
  1. Agorwch Pulse Secure yna tapiwch ar Connect. Y tro cyntaf y byddwch yn gwneud hyn efallai y bydd blwch dialog yn ymddangos sy'n gofyn i chi roi tic mewn blwch sy'n dweudI trust this application. Ticiwch y blwch yna tapiwch ar OK.
  2. Efallai y bydd rhybudd diogelwch yn ymddangos y tro cyntaf a bydd yn gofyn i chi am dystysgrif. Derbyniwch y dystysgrif.
  3. Dylech weld tudalen we Gwasanaeth SSL VPN Prifysgol Abertawe; Rhowch eich enw defnyddiwr ID Rhwydwaith (yn y mwyafrif o achosion bydd hyn eisoes wedi'i lenwi gan yr ap) a'r cyfrinair.
  4. Derbyniwch y cais dilysu MFA trwy'r ap Microsoft Authenticator, neu drwy neges destun neu alwad ffôn, fel byddech yn gwneud wrth fewngofnodi i'ch cyfrif e-bost.

Sylwer:
Gallwch gysylltu uchafswm o un ddyfais ar y tro â SSL VPN Prifysgol Abertawe. Os byddwch yn ceisio cysylltu ail ddyfais tra bod cysylltiad arall yn rhedeg ar ddyfais arall byddwch yn derbyn neges yn gofyn a ydych chi'n dymuno cadw'r cysylltiad presennol a chanslo'r cais am gysylltiad newydd neu dorri cysylltiadau presennol a sefydlu cysylltiad newydd.








Mynediad o Bell Diogel ar gyfer iOS (VPN)

Mae'r gwasanaeth Mynediad o Bell Diogel yn galluogi myfyrwyr a staff i gysylltu ag adnoddau cyfyngedig y Brifysgol tra eu bod oddi ar y campws neu'n defnyddio eduroam. Mae'r gwasanaeth yn amgryptio traffig rhwng cyfrifiadur defnyddiwr a rhwydwaith y Brifysgol. Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn esbonio sut i ddefnyddio Pulse Secure Client gyda'r gwasanaeth Mynediad o Bell Diogel. Pan fyddwch oddi ar y campws argymhellir eich bod yn defnyddio'r Porth Mynediad Diogel/VPN er mwyn cael mynediad i gronfeydd data adrannau, gweinyddion ac adnoddau TG eraill y Brifysgol sydd wedi'u diogelu gan wal dân.

Gofynion

Gall dyfeisiau iOS sy'n rhedeg fersiwn 6.1.3 neu ddiweddarach gysylltu â SSL VPN Prifysgol Abertawe trwy ap Pulse Secure. I wirio fersiwn eich iPhone, iPad, neu iPod touch, ewch i Settings, dewiswch General > About, ac edrychwch o dan "Version". Mae gan fersiynau diweddaraf Pulse Secure ofynion iOS uwch ond bydd App Store yn caniatáu i chi lawrlwytho a gosod fersiwn hyn a fydd yn gweithio ar eich dyfais ond mae'n rhaid ei bod yn rhedeg 6.1.3 fel isafswm.

Gosod yr Ap

Mae Pulse Secure ar gael ar gyfer iOS o App Store. Gallwch chwilio amdano neu fynd yn syth i Pulse Secure yn App Store trwy Safari ar eich dyfais iOS i'w osod. Apple Store

Y tro cyntaf y byddwch yn agor Pulse Secure, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Efallai y bydd yn gofyn i chi alluogi'r ap, i dderbyn cytundeb trwyddedu, neu i ddadosod Junos Pulse (cleient VPN hyn nid yw'n gweithio ym Mhrifysgol Indiana bellach). Yr URL ar gyfer y gweinydd IU VPN yw: https://connect.swan.ac.uk/

Ar gyfer gosodiadau eraill gallwch ddefnyddio'r rhagosodiadau

Cysylltu a Datgysylltu

Pwysig:

I gysylltu â SSL VPN Prifysgol Abertawe:
  1. Agorwch Pulse Secure yna tapiwch ar Connect.
  2. Rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.
  3. Derbyniwch y cais dilysu MFA trwy'r ap Microsoft Authenticator, neu drwy neges destun neu alwad ffôn, fel byddech yn gwneud wrth fewngofnodi i'ch cyfrif e-bost.
Sylwer: Gallwch gysylltu uchafswm o un ddyfais ar y tro â SSL VPN Prifysgol Abertawe. Os byddwch yn ceisio cysylltu ail ddyfais tra bod cysylltiad arall yn rhedeg ar ddyfais arall byddwch yn derbyn neges yn gofyn a ydych chi'n dymuno cadw'r cysylltiad presennol a chanslo'r cais am gysylltiad newydd neu dorri cysylltiadau presennol a sefydlu cysylltiad newydd.








Mynediad o Bell Diogel ar gyfer Mac (VPN)

Mae'r gwasanaeth Mynediad o Bell Diogel yn galluogi myfyrwyr a staff i gysylltu ag adnoddau cyfyngedig y Brifysgol tra eu bod oddi ar y campws neu'n defnyddio eduroam. Mae'r gwasanaeth yn amgryptio traffig rhwng cyfrifiadur defnyddiwr a rhwydwaith y Brifysgol. Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn esbonio sut i ddefnyddio Pulse Secure Client gyda'r gwasanaeth Mynediad o Bell Diogel. Pan fyddwch oddi ar y campws argymhellir eich bod yn defnyddio'r Porth Mynediad Diogel/VPN er mwyn cael mynediad i gronfeydd data adrannau, gweinyddion ac adnoddau TG eraill y Brifysgol sydd wedi'u diogelu gan wal dân.

Gofynion

Y porwyr gwe sydd wedi'u cefnogi gan Brifysgol Abertawe yw Google Chrome, Safari neu Firefox.

Defnyddio'r Gwasanaeth Mynediad o Bell

Mae'r cyfarwyddiadau hyn wedi'u creu gan ddefnyddio porwr y we Safari.

I ddefnyddio Gwasanaeth Mynediad o Bell Prifysgol Abertawe:

  1. Mewn porwr gwe, ewch i https://connect.swan.ac.uk

  2. Bydd neges cyn mewngofnodi yn ymddangos, cliciwch ar 'Proceed'

  3. Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Prifysgol Abertawe

  4. Derbyniwch y cais dilysu MFA trwy'r ap Microsoft Authenticator, neu drwy neges destun neu alwad ffôn, fel byddech yn gwneud wrth fewngofnodi i'ch cyfrif e-bost
  5. Ar y sgrin nesaf bydd yr Host Checker yn dechrau llwytho. Mae angen lansiwr gosodiadau ar gyfer hyn

  6. Ar ôl cyfnod byr bydd y sgrin yn gofyn i'r lansiwr gosodiadau gael ei osod, cliciwch ar 'Download' pan fydd yn ymddangos

  7. Pan fydd y lawrlwytho wedi gorffen dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ddechrau'r gosodwr

  8. Cliciwch ar 'Continue' pan fydd yn gofyn i chi wneud hynny

  9. Cliciwch ar 'Install for me only' yna cliciwch ar 'Continue'

  10. Ar y sgrin nesaf cliciwch ar 'Install'

  11. Pan fydd y gosodiad wedi gorffen cliciwch ar 'Close'

  12. Pan fydd y lansiwr gosodiadau wedi'i osod bydd yr Host Checker yn gosod ei hun a bydd neges yn ymddangos yn gofyn i chi ganiatáu mynediad gweinyddol er mwyn ei osod

  13. O dan Client Application Sessions cliciwch ar y botwm Start a phan fydd neges yn ymddangos teipiwch fanylion dilysu'r gweinyddwr neu rhowch ganiatâd i'r gosodwr gael mynediad i osod Pulse Secure

  14. Pan fydd Pulse Secure wedi'i osod bydd yn cysylltu â'r VPN yn awtomatig.

    Byddwch hefyd yn sylwi ar yr adran 'Web Bookmarks' pan fyddwch wedi mewngofnodi lle y gallwch gael mynediad i adnoddau'r we yn ddiogel heb orfod defnyddio VPN Pulse Secure Client neu gallwch ddefnyddio'r VPN a 'Web Bookmarks' ar yr un pryd